Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Rhyfel Cartref

Y Rhyfel Cartref

Y Pengryniaid a'r Brenhinwyr

Pan gychwynnodd Rhyfel Cartref Lloegr ym 1642 roedd y castell dan reolaeth lluoedd yn ffyddlon i'r Brenin Siarl I. Rodd Holt mewn lleoliad strategol iawn, sef man croesi cyntaf Afon Dyfrdwy i'r de o Gaer, felly ym 1643 ymosododd lluoedd y Senedd ar y bont a'i chipio cyn iddi gael ei hadfer gan y Brenhinwyr y flwyddyn ganlynol. Dyma pryd ddigwyddodd un o'r ychydig erchyllterau'r gwrthdaro pan gafodd tri ar ddeg o garcharorion seneddol eu lladd a thaflwyd eu cyrff i ffos y castell. Ymosododd lluoedd y Senedd ar y castell ym 1646 ac, wedi gwarchae naw mis, ildiodd Syr Richard Lloyd y castell, ar ran y Brenin, a chafodd ei ddinistrio wedyn i atal unrhyw ddefnyddio ohono eto.