Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ynglŷn â'r Eglwys

Croeso i Eglwys Sant Chad, eglwys hanesyddol o'r 13eg ganrif.

Gwrando

Mae Peter Aubrey yn egluro pam mae Eglwys Sant Chad yn arbennig

Yn wreiddiol yn dyddio o ddiwedd y 13eg ganrif, ond wedi ei hail-lunio'n sylweddol yn yr arddull Perpendiclaidd dan nawdd Syr William Stanley, a oedd yn dal Arglwyddiaeth Brwmffild o 1483 tan ei ddienyddiad yn 1495.

Daw'r enw, Sant Chad, o Esgob cyntaf Caerlwytgoed. Cofnodir iddo fynd ati i gymryd y ffydd Gristnogol i gyrion ei esgobaeth. Cysegrwyd tri deg tri o eglwysi hynafol a nifer o ffynhonnau i St Chad.

Mae nifer o dyllau pelenni mysgedau yn ei waliau a'i phileri yn dangos tystiolaeth i frwydrau gael eu hymladd dros yr eglwys yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae'r to, ynghyd â chromenni yn y tŵr yn dyddio o'r atgyweirio yn 1871-3. Gosodwyd y cloc a'r clychau presennol yn y tŵr ym 1902 i nodi coroni'r Brenin Edward VII ond dim ond yn 1980 y cawsant eu addasu i drydan. Cafodd y clychau, sy'n dyddio o 1714, eu hatgyweirio yn 1999 ar ôl bod yn ddi-ddefnydd am fwy na deng mlynedd.

Fel gydag eglwysi eraill yn agos at Afon Dyfrdwy, ym mis Awst, mae'r hen arferiad Cludo Brwyn yn atyniad enfawr, pan ddeuir â phrysgwydd llawr newydd o lannau'r Afon mewn gorymdaith, ac mae'r beddau yn cael eu "gwisgo" â blodau.

Mae giât haearn addurniadol a rheiliau sy'n dyddio o tua 1816 yn nodi'r fynedfa i Faes yr Eglwys. Gellir dod o hyd i baladr deial haul tywodfaen, o bosibl colofn Rufeinig, wedi'i osod ar risiau cerrig consentrig i'r de o'r eglwys.