Chwe Chloch Nodedig
Paul Gaade yw Capten y Tŵr yn Sant Chad
Gwnaed chwe chloch gan Abel Rudhall o Gaerloyw a'u gosod yn y tŵr ym 1714. Cawsant eu hongian mewn ffrâm haearn newydd ym 1896, eu tiwnio a'u troi am gost o fwy na £200. Fe'u hadnewyddwyd yn 1999 ar ôl bod yn ddistaw ers mwy na deng mlynedd.
Mae'r clychau wedi'u hysgythru fel a ganlyn a'u pwysau priod wedi'u nodi:
Trebl Llewyrch i'n holl gymwynaswyr 1714 OC 4 cwt (0.20 tunnell)
II Heddwch a chymdogaeth dda 1714 OC 4 1/2 cwt (0.23 tunnell)
III Ailfwriwyd gan Abel Rudhall 1728 5 1/4 cwt (0.27 tunnell)
IV Abel Rudhall fwriodd ni i gyd 1714 5 3/4 cwt (0.29 tunnell)
V Ailfwriwyd gan Abel Rudhall 1752 7 cwt (0.36 tunnell)
Tenor Y Parchedig John Adams Gweinidog 1714 9 cwt (0.46 tunnell)
Dydd Sul 30 Medi 1934 cafodd y clychau eu canu wedi eu distewi'n llwyr i nodi'r 266 glowr a gollodd eu bywydau yn nhrychineb Glofa Gresffordd.
Darllen pellach:
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys
'Holt a'i gofnodion trwy'r canrifoedd' gan John Powell




