Yr organ o Gaeredin
Yn wreiddiol, gosodwyd yr organ llaw 7 tunnell, gan adeiladwyr organau Norman a Beard yn Eglwys Rydd Unedig De Morningside yng Nghaeredin ym 1910. Mae ganddi 2 seinglawr, 22 stop, 8 cyplwr a gweithrediad gwasgedd.
Fe'i symudwyd i Holt ar ôl codi'r gost o £ 3,000 i'w hadleoli a'i hailadeiladu yn yr Eglwys. Rhoddodd nifer o blwyfolion fenthyciadau di-log am ddwy flynedd tra roedd arian yn cael ei godi i dalu'r ddyled.
Cafodd ei hailgysegru ddydd Sul, Gorffennaf 11, 1976 gyda'r organydd, Mr Arthur Bulmer yn dod o'r Alban. Roedd wedi chwarae'r organ am flynyddoedd lawer a rhoddodd ddatganiad.



