


Warwick a Mowbray 
Fitzalan a Richard III 
Mowbray a de Warenne 
Pen anhysbys a Stanley carth 
Gellir dyddio'r bedyddfaen wythochrog gain i tua 1493 drwy ei herodraeth, sy'n cofnodi dwy ganrif o arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl. Yr Arglwyddi cyntaf oedd y Warennes, a adeiladodd y castell tua 1300. Mewn cyfnodau diweddarach pasiodd yr arglwyddiaeth i'r Fitzalans; y Mowbrays o Norfold; y Nevills a'r Lenthalls; Richard III; a Syr William Stanley. Daeth Stanley yn Arglwydd Holt drwy gennad y Brenin Harri'r VII ar ôl Brwydr Bosworth. Mae arfbeisiau ar yr wyth wyneb.
Ni ellid bod wedi ei wneud cyn 1485 neu ni fyddai bathodyn milgi'r Tudor (Harri VII) wedi'i gerfio arno. Gan i Syr William Stanley gael ei ddienyddio ym 1495, rhoddir y dyddiad hwnnw fel y flwyddyn olaf ar gyfer gwneud y ffont. (Ar ôl torri pen Stanley am deyrnfradwriaeth, byddai wedi bod yn anodd dod o hyd i unrhyw un digon eofn yn Lloegr gyfan i roi ei arfbais 'pen hydd' arno.)