
Leigh mewn nod i Gymru 

Cymru v yr Alban 1907, y flwyddyn enillodd Cymru Bencampwriaeth y Cartref. Leigh gyda phêl. 
Tap am fanylion
Mab Holt a ddaeth yn bêl-droediwr o fri cyn marw yn y Somme ym 1916
Leigh Roose 1877-1916
Ganed yn Holt, gôlwr dewr a dyfeisgar a chwaraeodd i Gymru rhwng 1900 a 1912: merchetwr cyntaf pêl-droed a diddanwr; dyn sengl oedd yn gymar i Marie Lloyd, difyrwraig music-hall, ymhlith llawer o rai eraill.
Ffynhonnell: Lost in France gan Spencer Vignes ISBN 978-0-7524-4338-6
'Roedd yn wir yn dywysog ymysg gôl-geidwaid.' - Billy Meredith, pêl-droediwr rhyngwladol Cymru
Cyn i chi fynd i'r môr, dywedwch weddi.
Cyn mynd i ryfel, dywedwch ddwy weddi.
Cyn priodi, dywedwch dair gweddi.
Cyn penderfynu bod yn gôl-geidwad dywedwch bedair gweddi.' - Leigh Roose
Fe'i ganed ar 26 Tachwedd, 1877 yn y Mans y Presbyteriaid, Stryd y Castell, Holt, yn bedwerydd mab y gweinidog newydd, Richmond Leigh Roose a'i wraig, Eliza. Mynychodd yr Academi Holt ym 1882, a daeth yn un o 80 o fyfyrwyr. Roedd pêl-droed yn boblogaidd yn yr ysgol a'r pentref: teithiai Holt Nomads hyd at 200 milltir i chwarae gemau cyfeillgar. Astudiodd Feddygaeth yn Aberystwyth.
Cafodd ei ladd ym mrwydr y Somme, 7 Hydref 1916. Mae ei enw ar Restr Gwroniaid, Eglwys Bresbyteraidd Holt ond nid ar Gofeb Rhyfel y pentref.
# # Fe'i ychwanegwyd Gorffennaf 2015
Medrusrwydd pêl-droed Leigh
Yn 6 troedfedd, pwerus, fe adawodd Holt i astudio Meddygaeth yn Aberystwyth pan oedd yn 17 oed. Fe chwaraeodd pêl-droed i Dîm y Brifysgol, gan fireinio ei sgiliau a datblygu arddull wahanol o gadw gôl.
Ni oedd yn fodlon cael ei ruthro gan y flaenwyr y gwrthwynebwyr fel oedd yn gyffredin ar y pryd: yn lle hynny byddai'n gadael ceg y gôl i rwystro ymosodiadau a bownsio'r bêl i'r llinell hanner er mwyn lansio ymosodiadau ar gôl y gwrthwynebwyr. Er mwyn atal hyn, roedd yn rhaid newid y rheolau, yn 1912, gan gyfyngu ar lawio'r bêl i'r cwrt cosbi.
Yn 21 - wedi pasio ei arholiadau, penderfynodd aros ymlaen am flwyddyn i chwarae i dîm Tref Aberystwyth. Fe gafodd ei weld gan dimau mawr wrth i'w dîm deithio dros y wlad.
Ym 1900 enillodd y cyntaf o 24 cap dros Gymru gyda Billy Meredith. Yna aeth i ymrestru yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain, ond roedd yr holl leoedd wedi'u llenwi y flwyddyn honno. Fodd bynnag, roedd clwb Stoke City yn barod i dalu treuliau hael iddo barhau i fyw yn Llundain [yn gweithio yn yr ysbyty fel cynorthwyydd], pe byddai'n ymuno â nhw fel gôl-geidwad amatur. Yn aml byddai'n cyrraedd ar y funud olaf mewn Hansom Cab o'r orsaf.
Yn 1902, fe wnaeth y Daily Mail ei alw'n Dywysog y gôl-geidwaid.
Ym 1904 gadawodd Stoke am Everton; ym 1907 roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref gyntaf; a symudodd i Sunderland ym 1908; gwnaeth ymddangosiadau gwadd i'r Celtic, Port Vale ac ati.
Yn 1911 ar ôl torri ei fraich, fe adawodd am Arsenal ac ymddeolodd yn 1912.
Ar ddechrau'r rhyfel ymunodd â RAMC [Corfflu Meddygol] ym 1914, a'i anfon i Gallipoli ym 1915. Hysbyswyd ei fod ar goll gan dybio ei fod yn farw ar ôl Gallipoli. Tybiodd ei deulu ei fod wedi marw yn Gallipoli hyd nes, ym 1919, roedd colofnydd chwaraeon, a oedd yn ei adnabod yn dda, wedi dweud ei fod wedi chwarae criced gydag ef yn yr Aifft WEDI Gallipoli! Hefyd roedd cyfaill, George Holley, wedi bod yn cyfathrebu trwy lythyr tan Medi 16. Dywedodd un arall iddo fod gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol yng Ngogledd Ffrainc yn 1916.
Dilynodd ei chwaer Helena y cliwiau hyn, ond dywedodd y Fyddin nad oeddent erioed wedi cael unrhyw un o'r enw 'Roose' yn y Ffiwsilwyr. Cymerodd 80 mlynedd cyn i'w nai, Dick Jenkins, ddarganfod y gwall clerigol yn ei enw wrth iddo ymrestru gyda'r Ffiwsilwyr - 'Rouse', nid 'Roose'. Fel Leigh 'Rouse', y cam-sillafiad ar ei fedd yng Ngogledd Ffrainc, enillodd y Fedal Milwrol cyn iddo gael ei ladd yn y Somme ym mis Hydref 1916.
Mae plac yng nghlwb pêl-droed Wrecsam yn coffáu canmlwyddiant ffilm Mitchell a Kenyon o fuddugoliaeth Cymru yn y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref yn Wrecsam ym 1907 - 7 munud o ffilm, a oedd yn cynnwys Leigh Roose. Mae'n ei ddarlunio ac fe'i dadorchuddiwyd gan John Toshack.