Adeiladwyd y barics mefus ym 1883 i gartrefu'r casglwyr mefus teithiol o Lerpwl a Wrecsam yn ystod tymor yr haf.
Fe'u dyluniwyd gan Thomas Cramp, un o'r casglwyr. Darparwyd sinciau mawr yn yr awyr agored ar gyfer ymolchi, ac roedd meddyg yn ymweld i wirio eu hiechyd. Daethai barbwr hefyd, a threfnwyd parti diwedd tymor ar eu cyfer.
Ym 1899 cafodd organ faril ei llogi i ddiddanu'r casglwyr yn eu horiau hamdden.







