Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Brodyr Bellis

Gwrando

Mae Roger Bellis yn disgrifio tyfu mefus heddiw

Roedd gan Y Brodyr Bellis 10 fferm yn cyflogi tua 1,000 o bobl ar anterth y tymor. Roedd rhai o'r 'chwynwyr wythnosol' ar wyliau gwaith o'r trefi tra yn ystod y rhyfel roedd y Fyddin Dir a phlant ysgol yn gwneud y gwaith yn ystod eu gwyliau.

Tynnwyd ffrwythau trwy 'binsio'r' goes gydag ewin y bawd fel na chyffyrddwyd â'r ffrwyth. Roedd Y Brodyr Bellis yn ymfalchio yn ansawdd y ffrwythau ac felly eu nod masnach oedd 'Does dim yn cyffwrdd â'r ffrwythau hyn, pob un yr un fath yn ddi-feth'.

Dechreuodd 'Dewiswch eich hun' ym 1965. Disgrifiodd Wynford Vaughan Thomas, yn ystod un o'i ymweliadau â Gogledd Cymru, feysydd mefus yn Holt fel 'gardd hyfryd', a oedd yn deyrnged i'r gofal a gymerwyd i dyfu'r ffrwyth tymor byr hwn.