Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Meysydd Mefus Am Byth

Mae mefus wedi cael eu tyfu yn Holt am o leiaf 250 mlynedd

Gwrando

Mae Pam yn cofio arogl mefus fel plentyn.

Gwrando

Mae Harry yn cofio 'paratoi' y mefus

Roedd tyfu mefus ar ei anterth ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd pan oedd 1,500 erw yn cael eu tyfu yn Holt, Yr Orsedd a Farndon. Byddai wageni yn dod o mor bell â Carlisle i gasglu mefus ac adeiladwyd seidins yn Broxton a'r Orsedd yn arbennig i gludo llysiau a mefus! Roedd cynnyrch yn cael ei gludo i Lerpwl a Manceinion i'w ddosbarthu i Ardal y Crochendai a Gogledd Orllewin Lloegr.

Roedd rhai o'r 'chwynwyr wythnosol' ar wyliau gwaith o'r trefi tra yn ystod y rhyfel roedd y Fyddin Dir a phlant ysgol yn gwneud y gwaith yn ystod eu gwyliau.

Roedd plant yn cael eu cyflogi i 'babellu' y mefus, cerdded o gwmpas y cae gan ysgwyd tun gyda cherrig mân ynddo i ddychryn yr adar. Roedd y plant yn gwybod i beidio â chroesi o un rhes i'r llall rhag ofn sathru ar fefus gan fod mefus wedi'i fathru'n golled fawr.