
Y Groes ym 1905 
Cofeb Rhyfel ar y Groes (2017) 
Dedication of War Memorial, Awst 1920 
Diwrnod Clytif 1918 
Pwmp - dechrau'r 20fed ganrif 
Dechrau'r 20fed ganrif 
Golygfa Awyr y Groes (2018) _ Cwrteisi Chris Grimes
Croeso i Groes Holt, calon wleidyddol, fasnachol a chymdeithasol y pentref.
Mae'r Groes wedi chwarae rhan allweddol ym mywyd y gymuned dros y canrifoedd. Gallwch weld paladr carreg wyth ochrog y farchnad lle cynhaliwyd marchnadoedd yn yr Oesoedd Canol pan fu Holt yn ffynnu fel tref farchnad. Gwnaethpwyd datganiadau a chyhoeddiadau i'r cyhoedd yma hyd at y 19eg ganrif gan mai ychydig o bobl a allai ddarllen.
Mae'r Gofeb Rhyfel yn nodwedd amlwg yng nghanol y Groes.
Cysegrwyd y gofeb ar 1 Awst, 1920 ac mae'n rhestru enwau'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Costiodd dros £600 a godwyd gan danysgrifiad cyhoeddus. Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol yma ym mis Tachwedd.
Roedd y Groes hefyd yn arfer bod â dŵr ffynnon, postyn clymu ar gyfer baetio teirw ac eirth, a .... chyffion, lle mae'n sicr roedd trigolion afreolus yn cael eu cloi a'u gwawdio.