Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

O amgylch y Groes

Adeiladau sylweddol o gwmpas y Groes

Adeiladwyd Neuadd y Dref yn wreiddiol ym 1483. Yn tua 1660 cafodd ei hailadeiladu mewn carreg gyda tho teils. Nid yn unig oedd hwn yn adeilad pwysig ar gyfer gweinyddu a chyfiawnder tra oedd Holt yn fwrdeistref ac roedd Maer, ond fe'i defnyddiwyd hefyd fel man cyfarfod cyhoeddus ac ysgol. Roedd carchar yn union y tu ôl i Neuadd y Dref. Fe'i dymchwelwyd tua 1897. Adnewyddwyd gerddi Neuadd y Dref, ar y safle blaenorol, yn 2013, gyda bwrdd gwybodaeth yn cael ei ychwanegu.

Roedd gan Holt dri thafarn o gwmpas y Groes - Y Llew Coch (a enwyd yn ddiweddarach yn y Gredington), y Llew Gwyn a'r Llew Du rownd y gornel ar Heol yr Eglwys. O'r rhain, dim ond y Llew Gwyn sy'n aros fel tafarn.

Ar ochr ogleddol y Groes mae adeilad preswyl a oedd gynt yn Orsaf Heddlu, a adeiladwyd ym 1881. Mae'n nodedig am ei arddull pensaernïol Eingl-Eidalaidd ac fe'i hadeiladwyd mewn tywodfaen Cefn melyn sgwâr a phatrymog.

Roedd detholiad eang o siopau o bob math drwy'r pentref ond yn raddol mae hyn wedi lleihau i'r busnesau y gallwch eu gweld, wedi'u lleoli yn bennaf o gwmpas y Groes.