
Yr adeilad mewn cladin metel wrth ymyl Gardd Neuadd y Dref yw Neuadd Kenyon.
O'r North Wales Guardian Ebrill 29, 1892
AGOR NEUADD KENYON GAN DDUGES WESTMINSTER
"Roedd bwrdeistref hynafol Holt yn "en fete" ddydd Mercher, ar achlysur agor Neuadd Gyhoeddus newydd gan Dduges Westminster. Mae'r neuadd, y bwriedir iddi fod yn sefydliad anwleidyddol ac anenwadol, at ddefnydd pob dosbarth o gyfarfodydd, ac yn rhad ac am ddim i bobl Holt, wedi'i chodi ar safle dymunol iawn a roddwyd gan yr Arglwydd Kenyon, ger yr hen Neuadd y Dref. Mae costau ei chodi wedi cael ei dalu'n llwyr gan bobl nad oeddent yn breswylwyr Holt, a Dug Westminster yn cyfrannu swm sylweddol. Cymerwyd dydd Mercher fel gwyliau cyffredinol yn yr ardal, gyda baneri ac addurniadau bytholwyr yn cael eu harddangos yn helaeth gan y trigolion. Ar y llwyfan roedd nifer o blanhigion blodeuog mawr, ac ar y wal y tu ôl, a oedd wedi'i daenu'n chwaethus, oedd yr arwyddair "Croeso i Dduges Westminster".
Yn fuan ar ôl y tri o'r gloch, llenwyd y neuadd fawr a chynulleidfa ffasiynol, ac am 3.30 fe ddaeth Duges Westminster i mewn i fonllefau uchel, wedi cael ei hebrwng o'r bont dros y Ddyfrdwy gan Fand Bwrdeistref Wrecsam, Ymddiriedolwyr Tref Holt, Llywodraethwyr yr Ysgol Waddoledig, Brigâd Dân Holt a Farndon ac Aelodau Cyfrinfa Llewod Prydeinig yr Odyddion. Roedd hen fyrllysg y fwrdeistref hefyd yn cael ei gario yn yr orymdaith."
Yn yr agoriad fe wnaeth yr Arglwydd Kenyon araith.
Yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd Neuadd Kenyon yn lleoliad ar gyfer dawnsfeydd wythnosol. Trefnwyd llawer gan Alice a Ginny Rothwell i godi arian ar gyfer ysbytai lleol.
"Cawsom hwyl fawr yn yr Old Tyme Dances. Roedd y chwiorydd Rothwell yn arfer dysgu dawnsfeydd "newydd" ac addysgu eraill yn ystafell flaen eu tŷ wrth ymyl Swyddfa'r Post. Roedd yr ystafell yn fach iawn ond fe wnaethom ni lwyddo i fynd o gwmpas heb daro i mewn i'r dodrefn. Pan ddaeth hi'n ddawns dydd Sadwrn roeddem weithiau'n cael "dawnsfeydd blaengar" a oedd yn golygu bod yn rhaid i chi newid partneriaid trwy gydol y ddawns. Er fy mod yn fachgen ac i fod yn "arwain" yn aml roeddwn yn canfod fy hun yn cael fy llywio gan wragedd mawr, digon â chodi ofn ar lanc ifanc, a oedd yn awdurdodi drostynt. Yr oedd yr holl ddynion a bechgyn yn edrych ymlaen at "The Lancers". Dawns i bedwar o gyplau oedd hi ac yn y set olaf, roeddem i gyd yn cysylltu breichiau mewn cylch a chwyrlïo o gwmpas gan godi'r merched oddi ar eu traed i lawer o sgrechian a chwerthin ar eu rhan." Harry Jones