Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Deva Victrix

Deva Victrix

Cadarnle'r Lleng yng Nghaer

Adeiladwyd y gadarnle yng Nghaer neu Deva gan Ail Leng Aduitrix dan y llywodraethwr Gnaeus Julius Agricola o ganol yr OC 70au. Un o'r cadarnleoedd mwyaf yn y dalaith Rufeinig, roedd y gaer yn rhan o rwydwaith o gaerau llai, wedi'u cysylltu â ffyrdd palmantog ac yn cynnwys elfennau o'r llynges Rufeinig, oll dan orchymyn i gadw rheolaeth ar ogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr. Byddai'r adeilad gwreiddiol wedi cael ei wneud o bridd a phren, fodd bynnag, wrth i reolaeth Rhufeinig gryfhau, buan fyddai'r angen i ddechrau ailadeiladu amddiffynfeydd y gaer a'i strwythurau mewn deunyddiau mwy gwydn. Ymddengys i ailadeiladu mewn carreg ddechrau dan yr Ugeinfed Lleng pan gyrhaeddasant yn OC 87 ac roedd yn dal i fynd yn ei flaen 30 mlynedd yn ddiweddarach. Cynhaliwyd ailadeiladu mawr arall rhwng OC 215 a 240. Byddai'r holl waith wedi gofyn am lawer iawn o wahanol fathau o deils seramig, naill ai ar gyfer toi neu systemau gwresogi. Byddai'r lleng hefyd wedi bod angen nifer fawr o grochenwaith o wahanol fathau ar gyfer defnydd ei swyddogion a'i ddynion. Felly, er mwyn darparu ar gyfer anghenion y llengoedd, adeiladwyd Fabrica neu 'storfa gwaith' ar lannau Afon Dyfrdwy ger Holt.