
Y Goncwest Rufeinig OC 43
Ymosododd y fyddin Rufeinig ar Brydain yn OC 43 ar orchmynion yr Ymerawdwr Claudius (uchod) gyda byddin o bedair lleng dan y cadfridog Aulus Plautius. Gallai profiad cyntaf Gogledd Ddwyrain Cymru o'r Rhufeiniaid ddod yn OC 48 pan ymgyrchodd y llywodraethwr Ostorius Scapula yn erbyn llwyth y Deceangli yn yr hyn sydd bellach yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Fodd bynnag, cafodd goncwest Gogledd Cymru o dan Suetonius Paullinus yn OC 60 ei adael yn anghyflawn oherwydd gwrthryfel Buddug. Yng nghanol y OC 70au gwelwyd goncwest terfynol Cymru o dan Gnaeus Julius Agricola gyda chaerau llengoedd parhaol yn cael eu sefydlu yng Nghaerllion, ger Casnewydd, ar gyfer Ail Leng Augusta ac yng Nghaer, i ddechrau ar gyfer Ail Leng Aduitrix ac o OC 87, Ugeinfed Lleng Valeria Victrix, a oedd i alw Caer yn gartref am weddill y cyfnod Rhufeinig.