Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Yr Ail Ryfel Byd - Plant faciwîs

Pam oedd plant wedi eu mudo o ddinasoedd?

Yr Ail Ryfel Byd - Plant faciwîs

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, roedd pobl yn disgwyl i ddinasoedd gael eu bomio, wrth i awyrennau'r gelyn geisio dinistrio ffatrïoedd. Fodd bynnag, byddai bomiau yn taro cartrefi ac ysgolion hefyd. Felly, byddai plant mewn perygl. Ceisiodd y llywodraeth ar ddechrau'r rhyfel i 'wagio dinasoedd' o blant a mamau. Bwriad 'Gwacáu i gefn gwlad' oedd eu hamddiffyn rhag cyrchoedd awyr.
Cafodd y cynllun ei weithredu ym mis Medi 1939. Gadawodd tua 800,000 o blant eu cartrefi. Cafodd dros 20 ohonynt eu symud i Holt o ysgol yn Lerpwl ac ymgartrefu gyda theuluoedd yn y pentref. Arhosodd nifer ohonynt yn Holt ar ôl y rhyfel.
Mae atgofion Pam Moore (Brown gynt) isod.
Ewch i 'Atgofion o Holt' ar yr app hwn am atgofion Sheila 'Bow'.