Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ysgol Waddoledig Newydd

Ysgol Waddoledig Newydd

Cynlluniwyd yr ysgol 'newydd' ar gyfer 210 o fechgyn, merched a babanod gan Walter M Bowden, Pensaer ac fe'i dyluniwyd yn unol â rheolau diweddaraf y cyfnod hwnnw ac roedd am fynd ar ran o dir diffaith a elwid yn Maes yr Eglwys neu unrhyw safle arall oedd ar gael. Roedd Ysgoldy Cymysg gydag Ystafell Ddosbarth i gynnwys 126 o Fechgyn a Merched ac Ysgol Fabanod ar gyfer 84.
Roedd y caeau chwarae wedi'u cau mewn ac roedd ganddynt dai bach a throethfeydd.

Ni ddylai'r gyllideb ar gyfer yr Ysgol a'r Ystafelloedd Dosbarth, gyda iardiau i fod yn fwy na £800 a £175 ar gyfer Tŷ'r Ysgolfeistr.
Agorwyd tendrau ar 11 Gorffennaf 1874 a dyfarnwyd y contract i Mr John Lewis am swm o £941. 9. 0.
Ar y 27ain o Chwefror, 1874 gwnaed cais i Ymddiriedolwyr Arglwydd Kenyon am gael prynu neu gyfnewid darn o'r cae o'r enw Castle Croft, lle y codwyd yr Ysgol ym 1876.
Ar y 26ain o Ionawr, 1877, derbyniwyd tendr gan Mr Low am ddarparu'r Ysgoldai a Thŷ'r Ysgolfeistr gyda gosodiadau nwy am £ 18. 16. 3.

Cofrestrwyd y disgyblion cyntaf ar 26 Chwefror, 1877. Y bachgen cyntaf ar gofrestr 'Ysgol Holt' [Gwaddoledig] oedd William Chaloner, dg 24/4/1866, mab Edward [ffi flynyddol 78c]; a'r ferch gyntaf a gofrestrwyd oedd, Harriet Chaloner, dg 10-8-1862, merch Edmund

Yr Ysgol Ddiddoledig yn 2018
Yr Ysgol Ddiddoledig yn 2018