Mae Sheila 'Bow' yn cofio dod i Holt yn 1939.
Dywedodd Sheila Black (a fabwysiadwyd yn ddiweddarach fel Sheila Gillam) ei stori ym 1987.
"Des i Holt pan oeddwn yn bump oed, ynghyd â nifer o blant eraill o'r un ysgol yn Lerpwl. Cyrhaeddais yn 1939. Fe wnes i gario ces cardbord bach glas ac ynddo roedd coban, pâr o sanau a fy sgarff. Yn fy llaw, roedd ci llestr bach sydd hyd heddiw yn cael lle anrhydeddus yn fy nghwpwrdd gwydr.,
I mi roedd yn ddechrau bywyd newydd, yn brofiad cwbl newydd i fod yn lân, i chwarae ar laswellt a gwylio o ffenestr fy ystafell wely fy hun yr Afon Dyfrdwy a'r gwartheg yn pori ar y dolydd. Fe wnaethon ni aros gyda'n gilydd, ni blant Lerpwl, ac os gwnaed unrhyw ddrygau yn y pentref, fel arfer ni oedd yn cael y bai.
Mae nifer ohonom wedi aros yn y pentref ac yn ffrindiau da hyd heddiw."
Aeth Sheila ymlaen i briodi George Guisby a pharhaodd i fyw yn y pentref.