Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Blynyddoedd Sych

Yn 2003 diddymwyd y gyfraith oedd yn gwahardd yfed ar y Sul yng Nghymru gan newid 122 mlynedd o hanes yfed yng Nghymru. Roedd stori dydd Sul sych yn dyddio'n ôl i 1881 pan waharddodd Deddf Cau Dydd Sul Cymru werthu alcohol ar draws y wlad, gydag un eithriad nodedig.

Pasiodd llywodraeth Rhyddfrydol William Gladstone ddeddf a fyddai'n newid diwylliant, gwleidyddiaeth, a hyd yn oed bensaernïaeth Cymru, am dros ganrif.

Wedi'i noddi gan anghydffurfwyr amlwg yng Nghymru yn y Blaid Ryddfrydol, megis y darpar Brif Weinidog, David Lloyd George, roedd Deddf Cau Sul (Cymru) 1881 yn gwahardd gwerthu alcohol yn nhafarndai Cymru ar y Saboth.

Roedd Holt, a oedd wedi'i leoli ar y ffin, yn gweld teithiau bws rheolaidd o bellter fel bod pobl yn gallu croesi'r bont i mewn i Farndon i gael llymaid dydd Sul.
O dan Ddeddf Trwyddedu 1961, cymerodd grym y werin drosodd. Bob saith mlynedd, gellid cynnal refferendwm o fwy na 500 o bobl ym mhob ardal awdurdod lleol i benderfynu a oedd pobl am yr hawl i gael meddwi ar ddydd Sul.

Ym 1961, pleidleisiodd Sir Ddinbych lle'r oedd Holt, i barhau i fod yn sych drwy fwyafrif o 3,238 mewn canran bleidleisio o 54%. Erbyn y bleidlais olaf, ym 1996, roedd Cymru'n 'wlyb' i gyd. Ond roedd bariau, archfarchnadoedd a thai bwyta yn dal i gwyno am yr ansicrwydd.

Mae'r atgofion sain yma'n rhoi blas ar sut oedd y deddfau hyn yn effeithio ar Holt.