Daw perygl llifogydd i'r ddinas yn bennaf o lefel y dŵr yn codi yn yr Afon Elwy gan orchfygu amddiffynfeydd llifogydd y ddinas. Yn hanesyddol cafwyd llifogydd yn y ddinas yn 1871, 1882 a 1896. Yn ystod yr 20fed ganrif, cofnodwyd llifogydd yn ystod 1913, 1964 a 1965. O ganlyniad i hyn adeiladwyd amddiffynfeydd gwreiddiol drwy'r ddinas yn y 1960au.
Cafwyd llifogydd ym mis Tachwedd 2012 pan syrthiodd glawiad hir a dwys dros y dalgylch. Yn ystod oriau mân dydd Mawrth 27 Tachwedd 2012, gorchfygwyd yr amddiffynfeydd pan gododd yr Afon Elwy dair metr uwchlaw ei lefel arferol. Effeithiwyd ar 322 o gartrefi, 32 o fusnesau a 70 o garafannau o fewn y ddinas. Cofnodwyd dyfnder llifogydd o 0.8 metr ac arweiniodd y llifogydd at un farwolaeth drasig.



