Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Melin yr Afon Elwy

Melin yr Afon Elwy

Arferai Melin Ŷd Llanelwy, hen felin ddŵr, fodoli yng nghyffiniau y garej ar waelod y Stryd Fawr. Mae llinell ddŵr y felin yn dal yn amlwg i'r de, yn awr yn ddim ond ffos sych. Mae gweithred eiddo yn dyddio o 1353 yn cyfeirio at felin ŷd ddŵr yn Llanelwy yn agos at Balas yr Esgob ac yn ddiweddarach, mae map Speed ​​o 1610 yn dangos melin yn agos at y fan honno.