Ewch am dro ar hyd y glannau Afon Elwy, sy'n ardal dawel ac yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae'r Afon Elwy yn cario dŵr o'r bryniau serth ger Llanrwst. Yma, mae'r creigiau wedi'u gorchuddio â chlog-glai ac o ganlyniad yn ystod cyfnod o law trwm bydd yr afon yn codi ac yn disgyn yn gyflym iawn. Caiff llwythi o gerrig mân eu cario yn lli cyflym yr Afon Elwy tua'r môr yn y Rhyl.
Mae gwely greigiog yr afon yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt y dŵr gan gynnwys pryfed y cerrig, mursennod a gweision y neidr. Mae'r rhain yn darparu pryd o fwyd blasus ar gyfer ambell benlletwad sy'n disgwyl yn eu cuddliw yn erbyn y graean.
Bydd eogiaid yn dychwelyd wedi 4 blynedd i silio yn yr afon. Mae'r fenyw yn gwneud pant neu gladd yn y graean ble bydd yr wyau yn cael eu dodwy yn barod i ddeor yn y gwanwyn.

