
John Speed Map, 1610 Llfyrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales 
Sparrow Print, 1786 Llfyrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales 
Newman Print, mid 1800s Llfyrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales 
Photograph c1885 Llfyrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales 

Cynlluniwyd Pont Elwy gan Joseph Turner o Benarlâg ac fe'i hadeiladwyd tua 1770.
Cafodd pontydd cynharach eu difrodi gan lifogydd ac mae cofnodion dangos i drigolion Sir y Fflint godi £60 i atgyweirio'r bont yn 1723. Achosodd llifogydd difrifol yn 1767 i'r bont gael ei hatgyweirio dros dro cyn i'r bont newydd gael ei hadeiladu.
Mae map Speed a gyhoeddwyd yn 1648 yn dangos pont bren arall ymhellach i lawr yr afon yn agos i ble mae Pont Begard heddiw.
Ni chynlluniwyd y bont i gario'r traffig sy'n teithio drosti'n ddyddiol heddiw ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud gwaith cynnal a chadw mawr yn ddiweddar i warchod y gwaith carreg cain sydd oddi tan y pum bwa.