
Ym mynwent yr egwlys y claddwyd Dic Aberdaron, y teithiwr enwog oedd â gallu anhygoel i ddysgu ieithoedd.
Ychydig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Dic (mae'n bosib na chafodd addysg o gwbl) a gadawodd ei blwyf genedigol, sef Aberdaron, yn ifanc iawn. Dywedir ei fod wedi dysgu Lladin erbyn ei fod yn 12 mlwydd oed ac aeth ymlaen i ddysgu Groeg a Hebraeg yn ogystal ag ieithoedd modern fel Sbaeneg ac Eidaleg. Treuliodd ddwy flynedd yn llunio geiriadur Cymraeg-Groeg-Hebraeg ond ni lwyddodd i gael digon o noddwyr i'w gyhoeddi ac felly mae'r unig gopi yn cael ei gadw yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.