Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Sant Centigern a Sant Asa

Eglwys Sant Centigern a Sant Asa

Sefydlwyd Eglwys y Plwyf gan Centigern tua 560 O.C. ac fe'i gysegrwyd yn ogystal i Sant Asa (Asaf neu Asaph) yng nghanol y 12fed ganrif.

Mae'r rhannau cynharaf sydd wedi goroesi o adeilad Eglwys y Plwyf yn dyddio o'r 13eg ganrif ond ailadeiladwyd yr eglwys ym 1524. Ychwanegwyd corff gogleddol yr eglwys yn fuan wedyn ac mae gan y ddau brif gorff do trawstiau-gordd wedi'u haddurno gydag angylion ar yr ochr ddeheuol. Ychwanegwyd y porth presennol, cwt y clychau a'r festri ym 1872, dan oruchwyliaeth Syr George Gilbert Scott, y pensaer a oedd hefyd yn gyfrifiol am adfer y Gadeirlan.