Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gorsaf Drenau Llanelwy

Gorsaf Drenau Llanelwy

Agorwyd Gorsaf Drenau Llanelwy ar 5ed Hydref 1858, 14 mis yn unig ar ôl i'r gwaith ddechrau ar Reilffordd Dyffryn Clwyd a redai o'r Rhyl i Ddinbych.

Erbyn 1947 roedd wyth o drenau yn cario teithwyr i’r ddau gyfeiriad trwy’r orsaf ond yn raddol collwyd y gwasanaeth hwn er i drenau teithiau dyddiol barhau i'r 1960au. Yn hen iard yr orsaf roedd corlannau ar gyfer anifeiliaid a brynwyd yn y farchnad ac a oedd yn aros i gael eu rhoi ar drenau i’w cludo i Lerpwl, yn ogystal â glanfeydd glo ar gyfer masnachwyr lleol.