Adeiladwyd Tŷ’r Hen Lys a arferai fod yn Llys Sirol ym 1853 ac fe welir yr arfbais frenhinol uwchben y drws.
Cynhelid y Llysoedd Sirol unwaith y mis a byddent yn ymdrin ag achosion sifil megis adennill arian oedd yn ddyledus. Y tu ôl i'r llys yr oedd Gorsaf yr Heddlu gyda chelloedd ac iard ymarfer corff fach wedi’i hamgylchynu gan wal uchel.


