Codwyd y ffynnon hon ym 1865 gan yr Esgob Fowler Short er cof am ei wraig. Gallai rhai trigolion yn unig godi dŵr o'r ffynnon os oedd tocyn ganddynt. Pan osodwyd pibelli dŵr trwy'r ddinas ym mis Ionawr 1898 syrthiodd y ffynnon yn segur a'i symud i'w safle presennol. Yn 1993 adferwyd y ffynnon ond heb ddŵr.

