
Adeiladwyd Hen Balas yr Esgob gan yr Esgob Bagot ym 1791 a'i ymestyn i'r gorllewin ym 1831. Credir iddo gael ei hadeiladu ar safle hen balas cynharach sy'n dyddio nôl i 1634. Mae'r adeilad wedi cael ei droi'n fflatiau ac o ganlyniad i hyn dymchwelwyd yr adain ddeheuol ac adeiladu estyniad â brics modern. Roedd y Palas yn gartref i ddau o esgobion Llanelwy a ddaeth yn Archesgobion Cymru, sef yr Esgob Alfred George Edwards a oedd yn byw yno rhwng 1889 - 1920 ac yna'r Esgob Alwyn Rice-Jones a oedd yn byw yno rhwng 1982-1999.