Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tafarn Y Llew Coch

Adeiladwyd y dafarn hon ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau'r 17eg ganrif a hi oedd un o'r tafarndai hynaf yn Llanelwy.

Dywedir iddi gael ei defnyddio fel theatr ddiwedd y 18fed ganrif. Mae rhaglen o'r perfformiadau a gynhelid yno, yn dyddio o 1806, yn dal i fodoli ac mae'n hysbysebu dramâu dan y teitlau "The Castle Spectre", "Mysteries of Conway Castle", "The Waterman" a "The First August".