Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Elwy Bank

Wedi'u cuddio yn y tŷ preifat hwn mae casgliad o furluniau y credir iddynt gael eu paentio gan Hugh Hughes tua 1825.

Yn y casgliad o furluniau, mae naw o bortreadau o bobl, gan gynnwys Henry Hayden a oedd yn organydd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy am 25 mlynedd. Mae hi'n fwy na thebyg mai ef yw noddwr y peintiadau ac fe allai fod wedi byw yma. Mae porteadau o'r Arglwydd Nelson a rhieni'r Frenhines Fictoria, sef Dug a Duges Caint i'w gweld yma, ynghyd â phortread o'r offeiriad lleol Reginald Heber (a ysgrifennodd yr emyn Saesneg 'Holy, holy, holy ...') yn ogystal â'i dad yng nghyfraith Dr William Shipley a oedd yn Ddeon Llanelwy. Roedd y murluniau wedi'u cuddio y tu ôl i bapur wal ac anghofiwyd amdanynt am genedlaethau. Roedd yr adeilad mewn cyflwr mor wael yn y 1980au bu bron iddo gael ei ddymchwel ond yn ffodus mae wedi cael ei adfer ac mae bellach ar agor i'r cyhoedd yn achlysurol.