Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Brodyr Powell: ‘Pack Up Your Troubles’

Ganwyd Felix a George Powell a ysgrifennodd y gân enwog ‘Pack Up Your Troubles’ yn y tŷ hwn ac fe'u magwyd yn Llanelwy.

Roedd y ddau frawd a'u gwragedd yn rhan o fand llwyddiannus a deithiai neuaddau cerdd. Felix oedd y cyfansoddwr a’r un a chwaraeai’r piano a George ysgrifennai’r geiriau a’u canu. Yn 1915 enillodd ‘Pack Up Your Troubles’ wobr ‘Y Gân Orymdeithio Orau’ mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan gyhoeddwr cerddoriaeth. Mabwysiadwyd y gân yn gyflym gan filwyr o bob gwlad. Roedd yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn 1916 ac erbyn 1918 roedd wedi croesi 'Tir Neb' ac yn cael ei chanu gan filwyr yr Almaen hefyd. Yn ôl yr hanes, tarodd llong ryfel yr SS Laurentic ffrwydryn ym Môr Iwerddon a suddo ac aethpwyd â’r goroeswyr i neuadd lle gwelodd morwr ifanc biano. Dechreuodd chwarae ac yn gyflym casglodd pawb o’i gwmpas i ganu cytgan ‘Pack Up Your Troubles’ gyda'i gilydd.