Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwesty'r Mostyn Arms

Gwesty'r Mostyn Arms

Roedd Gwesty’r Mostyn Arms yn ‘dafarn deuluol a masnachol’ o safon yn cynnig ‘tai allan ardderchog i gloi coets a stablu ceffylau’.

Yng Ngwesty'r Mostyn Arms ym 1837 cyfarfu Bwrdd Undeb Gwarcheidwaid Llanelwy i sefydlu Tloty Undeb y dref a ddaeth yn gartref i un o'r enwogion y dref, sef Henry Stanley. Yn y 1900au cynnar yr oedd Swyddfa Bost yma, dan ofal postfeistr a thîm o 34 o postmyn, bechgyn telegraff a staff eraill. Dosbarthwyd telegramau â llaw i bentrefi mor bell â Thremeirchion.