
Nid yw'r ardal dawel hon wedi newid fawr ddim dros y blynyddoedd.
Mae Richard yn cofio fel plentyn yn y 1940au mai ei waith oedd bwydo'r ieir a'r hwyaid yn ogystal â chasglu'r wyau. Roedd ganddynt wartheg a defaid ar y fferm a byddent yn cerdded yr anifeiliaid dair neu bedair milltir i lawr i'r farchnad yn Ninbych. Ychydig o ffermwyr fyddai'n prynu cnau i'r anifeiliaid, ond eu bwydo ar wair a blawd o'r felin leol yn y gaeaf.
Mae ei fab Huw yn cofio helpu allan ar y fferm yn ifanc, trin y gwair neu helpu yn yr ardd i dyfu tatws, moron, nionod, pys, ffa dringo a letys.
Mae ganddyn nhw ddefaid o hyd ar y mân ddaliad heddiw.