Mae llawer o'r disgyblion yn Ysgol Pant Pastynog heddiw yn bedwaredd neu'r bumed genhedlaeth o'u teulu i fynychu.
Bu'r plant yn cyfweld rhai o'r cyn-ddisgyblion i ddarganfod sut mae pethau wedi newid.
Briwgig a thatws ac yna cwstard ŵy oedd un o'r hoff giniawau ysgol yn y 1970au.
Mae Huw yn cofio un gaeaf pan aeth y prifathro ag ef a ffrind adref ar y tractor drwy eira dwfn.
Mae Nia yn cofio mynd i nofio yn y pwll awyr agored ym Mron Dyffryn cyn i'r pwll agor yn Ninbych.


