
Pont Rhyd y Gad
Parcio: yn Nant Swrn . O lein Nant Swrn, trowch i'r dde a chroesi'r ffordd. Trowch i'r chwith i lawr y lôn ddwfn sy'n arwain at y bont.
Ewch i'r plac coch ger y bont.

Pont Rhyd y Gad
Dyma enghraifft berffaith o enw'n cofnodi hanes; yn gyntaf adeiladwyd pont i gymryd lle rhyd, yn ail fe enwyd y rhyd ar ôl brwydr sylweddol. Os edrychwch i lawr o'r bont ar yr ochr ddeheuol (i fyny'r afon) fe welwch gerrig mawr wastad a osodwyd yno i greu rhyd i'r afon. Wrth deithio yng Nghymru ac ar draws y ffin, roedd hi'n bwysig gwybod ble roedd croesfannau'r afon, datblygodd a mabwysiadwyd y gair Saesneg ar gyfer "ford" yn air Cymraeg ar gyfer y ffordd.

Y Plac
Mae'r plac coch yn coffau brwydr a gofnodwyd gan enw'r rhyd. Mae'n cyfeirio at y frwydr a oedd yn rhan o Ymgyrch y Berwyn. Ni roddwyd enw i'r frwydr yma, yn wahanol i frwydr Crogen a ddigwyddodd yng ngwaelod Dyffryn Ceiriog (iBeacon 3) ond roedd yn rhan o'r un ymgais gan Harri II i orchfygu'r Cymry.

Ymgyrch Berwyn
Yn ystod haf 1165, casglodd Brenin Harri'r II of Loegr fyddin gref o bob rhan o'i ymerodraeth Angefin i'r Amwythig. Ei genhadaeth oedd dinistrio pŵer y Tywysogion Cymreig gwrthryfelgar unwaith ac am byth. Roedd y fyddin hon yn fwy nag unrhyw un a oedd wedi ymosod ar Gymru o'r blaen ac nid oedd gobaith i unrhyw un o'r tiriogaethau Cymreig drechu'r gelyn yn unigol. Felly, am unwaith, daeth yr holl arweinwyr Cymreig at ei gilydd i wrthwynebu Harri II dan arweiniad Owain Gwynedd. Ymunodd y cynghreiriaid ger Corwen; Owain Gwynedd, ei frawd Cadwaladr, Tywysogion Powys, (a oedd wedi ymladd yn erbyn ehangu Gwynedd i Bowys ac ar un cyfnod wedi cynghreirio â Harri II yn erbyn Gwynedd, yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth, rheolwyr y tiroedd rhwng Gwy a Hafren a dynion De Cymru. Dyma'r unig adeg yn hanes canoloesol Cymru y bu i'r holl arweinwyr Cymreig yn ymuno â'i gilydd i ymladd un gelyn cyffredin.
Sefydlodd Harri ei fyddin yng Nghroesoswallt, gosod gwersyll yno a disgwyl. Roedd dyffryn coediog Ceiriog ac ucheldiroedd Berwyn rhwng y ddwy fyddin. Ar ôl treulio sawl diwrnod yn eu pebyll, collodd Brenin Harri ei dymer. Casglodd ei filwyr dethol a symudodd i waelod dyffryn Ceiriog, tra symudodd prif ran ei fyddin o Groesoswallt i ran uchaf y dyffryn ger Tregeiriog. Roedd rhaid torri coed a chlirio llwybr araf trwy'r coed, bu ymosodiad arnynt yng Nghrogen ger lle mae Castle Mill bellach. Bu Harri'n lwcus i ddianc, gan arwain ei fyddin o ddyffryn Ceiriog gan ddringo ucheldiroedd y Berwyn ar yr ochr arall. Ceisiodd prif fyddin Harri ei ddilyn ond cawsant eu trechu gan y cynghreiriaid Cymreig yma ar groesfan yr afon.
Gwahanwyd Harri o'i brif fyddin ac wedi ei blagio gan dactegau guerrillaidd y Cymry ar rostir y Berwyn, pan ddaeth storm. Bu dyddiau o law a chenllysg gan ei gwneud hi'n amhosib symud drwy'r dirwedd fudr. Gyda'i linell cyflenwi wedi'u torri a'i ddynion yn llwgu, bu'n rhaid i Harri adael yr ucheldiroedd a naill ai drwy drafodaethau neu ymladd darganfu ffordd yn ôl i'w brif fyddin. Roedd gan Harri'r gwystlon Cymreig, llawer ohonynt yn blant, ac yn ei dymer gwnaeth anaf difrifol i sawl un ohonynt a'i hongian, cyn encilio mewn cywilydd. Teithiodd gyda'i fyddin i Gaer lle bu'n disgwyl am fflyd o longau o Ddenmarc a oedd yn teithio o'r Iwerddon i'w gynorthwyo yn ei goncwest. Ond nid oedd digon o longau i ymateb i'w gynllun. Felly, gyda'r ergyd olaf hwn daeth ei fenter ddrud i ben. Yn ddiweddarach fe adawodd Prydain ni ddychwelyd am bedair blynedd. Ni ymosododd ar Gymru wedyn, gan ffafrio agwedd fwy diplomyddol wrth ddelio â'r Cymry, a pharhaodd Cymru'n annibynnol am 120 mlynedd arall.

Lôn ddew. 
Sorrel Wood a Celandine.
Nodyn Natur
Mae'n anodd dychmygu gwrthdaro mor filain yn y fan hardd yma heddiw. Mae'r banciau o wrychoedd yn y lôn ddwfn o'r B4500 a'r lôn garw sy'n mynd i fyny'r bryn ag amrywiaeth hyfryd o flodau coetir. Gellid gweld mefus gwyllt, sanau'r gog, briallu a choed suran yma.