Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

2 Pontfaen

2 Pontfaen

Pontfaen

Nid oes unrhyw le i barcio car ar yr ail bwynt o ddiddordeb, Pontfaen. Felly mae'n well parcio ym maes parcio Caffi Wylfa a dilyn y llwybr sy'n croesi'r dyffryn, gan weld pwynt 1 a 2 yr un pryd. Mae'r daith gerdded yn croesi'r afon dros yr hen bont garreg, gan ddychwelyd i Gaffi Wylfa sydd ar y llwybr tynnu ar draws y dyfrbont. Mae'n llai na 2 cilometr, efallai y bydd rhai o'r llwybrau'n fwdlyd ac mae sawl camfa.

Pwyswch yma ar gyfer map a disgrifiad o sut i groesi'r dyffryn

2 Pontfaen

Pont Pontfaen

Defnyddiwyd y bont yma, ar un cyfnod, fel y brif ffordd o Gaerdydd i Gaer. Ond yn nechrau'r 19eg ganrif, adeiladodd Thomas Telford briffordd Bangor i'r Waun a ddatblygodd i fod yr A5, ac felly roedd traffig yn croesi'r Afon Ceiriog ar y bont newydd yn Y Waun.

2 Pontfaen

Pysgodfa'r Waun

I'r gorllewin o Bontfaen ym 1901 sefydlwyd Pysgodfa'r Waun Co Ltd sef deorfa brithyll. Cariwyd y brithyll gan dram, mewn cuddiau llaeth wedi'u llenwi â dŵr. o'r dramffordd yna i Orsaf y Waun ac yna ar y rheilffordd i Lerpwl, Manceinion a chyrchfannau eraill. Mae'r fferm pysgod yn dal i fod yn fusnes ffyniannus. Mae ffrwd yn cario dŵr afon Ceiriog o'r gored i'r pyllau brithyll.

2 Pontfaen

Tramffordd Cwm Glyn

Pan roedd y tram yn cael ei thynnu gan geffylau, croeswyd yr afon Ceiriog ym Mhontfaen dros ei phont ei hun a'i chludo ymlaen i Gledrid ar Gamlas Ellesmere. Byddai teithwyr o Lyn Ceiriog yn dod allan o'r tram ym Mhontfaen ac yn cerdded i'r Waun. Daeth wagenni nwyddau i lawr y dyffryn o dan ddisgyrchiant gyda ffrwynwr yn ei yrru, a byddai'n cael eu tynnu yn ôl i fyny'r dyffryn gan geffyl. Roedd yn rhaid i gerbydau teithwyr gael eu tynnu gan geffyl o'r ddau gyfeiriad.

Fodd bynnag, ym 1874 daeth criw o deithwyr ar y tram yng Nglyn Ceiriog, roeddent wedi archebu cerbyd, fe'i rhoddwyd ar dryc llechen gan ffrwynwr wedi meddwi. Daethant lawr y dyffryn ar gyflymder mor chwim gadawodd y tryc, y gyrrwr meddw a'r teithwyr y trac ar gornel heger ac fe'i taflwyd i mewn i'r afon ym Mhontfaen.

Pan gyflwynwyd stêm yn 1888, ail-gyfeiriwyd y tram o Bontfaen i gwrdd â rheilffordd Amwythig i Gaer yn Y Waun.

2 Pontfaen

Nodyn Natur

Mae Afon Ceiriog yn afon bysgota bwysig gyda brithyllod brown yn bennaf, pysgota gwyllt yn y gaeaf. Arferai fod yn afon eog pwysig ac maent yn dal i silio ynddi. Gellir trefnu trwyddedau pysgota trwy Glwb Pysgota Glyn Ceiriog a www.ceiriogflyfishers.co.uk