
Dyfrbont a Thraphont
Parcio: maes parcio Caffi Wylfa.
Cyfleusterau: Byrbrydau a phrydau yng Nghaffi Wylfa
Mae'r llwybr yn cychwyn yng Nghaffi Wylfa lle gellid eistedd a chynllunio'ch taith gan fwynhau diod a rhywbeth bach i'w fwyta.
Sgroliwch o amgylch y map o'r llwybr i ddarganfod pwyntiau o ddiddordeb megis Dyfrbont y Waun.
Pwyswch yma i weld map o'r llwybr
Nid oes unrhyw le i barcio car ar yr ail bwynt o ddiddordeb, Pontfaen. Felly mae'n well parcio ym maes parcio Caffi Wylfa a dilyn y llwybr sy'n croesi'r dyffryn, gan weld pwynt 1 a 2 yr un pryd. Mae'r daith gerdded yn croesi'r afon dros yr hen bont garreg, gan ddychwelyd i Gaffi Wylfa sydd ar y llwybr tynnu ar draws y dyfrbont. Mae'n llai na 2 cilometr, efallai y bydd rhai o'r llwybrau'n fwdlyd ac mae sawl camfa.
Pwyswch yma ar gyfer map a disgrifiad o'r llwybr sy'n croesi'r dyffryn

Draphont Ddŵr y Waun
Cychwynnodd Thomas Telford a William Jessop o adeiladu Ddyfrbont y Waun, gan gymryd camlas Ellesmere ar draws Dyffryn Ceiriog, ym 1796. Fe'i cwblhawyd pum mlynedd yn ddiweddarach a chyn i Thomas Telford adeiladu ei 'nant enwog yn yr awyr' - sef Dyfrbont Pontcysyllte. Adeiladwyd Dyfrbont y Waun mewn tywodfaen melyn, sy'n cuddio cafn haearn. Yn wreiddiol, dim ond haearn oedd yno, oherwydd bod dŵr yn gollwng fe ychwanegwyd platiau haearn ar yr ochrau ym 1870.
Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte
Pwyswch yma i weld map o Safle Treftadaeth y Byd
Mae Camlas Llangollen yn cychwyn ger Rhaeadr Bwlch yr Oernant, ac yn tynnu dŵr o'r Afon Ddyfrdwy. Fe'i hadeiladwyd i gysylltu diwydiannau mwynol a glo Gogledd Cymru â Chanolbarth Lloegr. Y bwriad oedd cysylltu'r gamlas â'r môr yn Ellesmere Port gan ymuno â Chamlas Amwythig yng Nghaer. Fodd bynnag, ni chafodd yr adran o Fasn Trefor i Gaer ei hadeiladu, oherwydd bod y rheilffyrdd yn ddull cludiant llawer mwy ymarferol. Bwriadwyd i'r gamlas gul o Raeadrau Bwlch yr Oernant i Fasn Trefor fwydo dŵr i mewn i brif system y gamlas ac mae'r ddwy groesfan drawiadol Pontcysyllte a'r Waun wedi gwneud yr un hon o gamlesi mwyaf poblogaidd Prydain.

Twnnel y Waun
Yn union i'r gogledd o Ddyfrbont y Waun mae'r 'The Darkie', sef twnnel 365 metr. Bydd angen torch arnoch yma i dreiddio drwy'r tywyllwch.

Traphont y Waun
Ynghyd â'r dyfrbont mae traphont rheilffordd Henry Robertson, a adeiladwyd rhwng 1846 a 1848. Cafodd y ddau ben eu hailadeiladu ym 1858. Roedd Henry Robertson yn ddiwydiannydd, yn beiriannydd ar Rheilffordd Amwythig i Gaer a pherchennog Gwaith Haearn Brymbo. Adeiladwyd y draphont yn fwriadol 9 metr yn uwch na'r ddyfrbont fel symbol weledol o uwchraddoldeb trafnidiaeth rheilffyrdd dros ddyfrffyrdd. Mae'n debyg bod yn rhaid i Robertson arolygu llwybr y rheilffordd yn y nos er mwyn osgoi llid y tirfeddianwyr lleol.
Tramffordd Cwm Glyn
Roedd Tramffordd Cwm Glyn yn rheilffordd gul (2 troedfedd 4.5 modfedd), a oedd yn rhedeg o'r Waun 13.3 km i fyny Dyffryn Ceiriog. Yn wreiddiol fe'i defnyddiwyd fel tramffordd a dynnwyd gan geffylau, ymunodd â Chamlas Ellesmere yn Gledrid. Gyda'r trawsnewidiad i stêm ym 1888 fe'i dargyfeiriwyd gan gyrraedd pen y lein yng Ngorsaf y Waun, lle cysylltai â Rheilffordd yr Amwythig i Gaer. Am ddegawdau, llwyddodd y dramffordd i ddarparu cludiant i nwyddau a theithwyr yn llwyddiannus. Aethpwyd â theithwyr olaf ar y trên ar 6 Ebrill 1933 a chafodd y dramffordd ei gau ar 6 Gorffennaf 1935.

Nodyn ar Natur
Mae ochr ogleddol y dyffryn o Gaffi Wylfa i Bont-faen wedi'i orchuddio mewn garlleg gwyllt sy'n aromatig iawn yn y gwanwyn, pan fo'n blodeuo. Mae pobl leol yn credu mai'r dyma'r rheswm nad oes fampiriaid yn y dyffryn!

