Agorodd Y Cross Foxes tua 1780 ac mae'n bosibl mai dyma'r adeilad hynaf yng nghanol y pentref.
Fe'i hadeiladwyd gan y teulu Williams a oedd yn berchen ar Ystad Penbedw bryd hynny ac mae'n cymryd ei enw o'u harfbais.
Mae stori am ddieithryn a alwodd yn y Cross Foxes yn cario swm mawr o arian. Gwrthodwyd llety nos iddo a bu'n rhaid iddo barhau ar ei ffordd. Ar y brif ffordd, cyfarfu â ffermwr a ddywedodd wrtho y bu llawer o ysbeilio a lladradau yn yr ardal yn ddiweddar. Gadawodd y ffermwr iddo aros y nos a gwrthododd gymryd unrhyw arian. Rhywbryd yn ddiweddarach cyflwynwyd cwpan arian i'r ffermwr gyda'r arysgrif
'Gyda diolch - cyflwynwyd gan John Scott, adeiladwr llongau, Greenock, yr Alban i John Hughes, ffermwr, o Tardd-y-dwr, Nannerch Gogledd Cymru am ei ddyngarwch a'i garedigrwydd wrth gymell iddo fynd i'w dŷ ar nos Sadwrn 7 Mehefin 1806, ar ôl ymdrech ofer i gael mynediad i'r dafarn yn dwyn arwydd y Cross Foxes '
Roedd y dafarn hefyd yn siop gig ac roedd yn swyddfa bost tan y 1990au.

