Tyfodd pentrefan Pen y felin o gwmpas y felin, un o dair yn y plwyf.
Roedd Melin Nannerch yn gartref i'r teulu Davies o 1885 hyd 1968. Roeddent yn felinwyr a phobyddion ac yn gynnar yn y 1900au roedd bara a bwydydd yn cael eu gwerthu yn y becws neu'n cael eu danfon â cheffyl a chert tra'n ddiweddarach nhw oedd un o'r busnesau cyntaf i yrru cerbyd modur.
Yn ystod y 1950au a'r 60au roedd y teulu yn arlwyo yn yr holl sioeau mawr yn ogystal â dosbarthu nwyddau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
Roedd Capel Pen y felin yn gapel Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg gyda thros 140 o aelodau ar un adeg.



