Dechreuodd y Cherry Pie fel siop goffi fechan.
Roedd yn cael ei redeg gan Sunny Christie, menyw Americanaidd a bobodd y pasteiod ceirios gwreiddiol.
Syrthiodd teulu Simon mewn cariad â The Cherry Pie ar daith allan o Lerpwl yn 1967, prynu'r busnes, a'i ddatblygu yn fwyty ac maent wedi bod yn ei redeg ers hynny.
Mae cymaint o fwyd â phosibl yn cael ei gynhyrchu'n lleol gan gynnwys cig, pysgod, wyau, ffrwythau a llysiau ac maent yn parhau i weini bwyd cartref blasus gan gynnwys pwdinau Nadolig a wneir gan Simon.
Tŷ'r melinydd oedd y Cherry Pie yn wreiddiol.

