Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Yr Hen Felin

Yr Hen Felin

Mae Melin y Wern yn eistedd ar lannau'r Afon Chwiler.

Yr adeilad hynaf yw'r felin ei hun, y credir iddi gael ei hadeiladu tua 1805 yn lle melin bren.

Gweithiodd y teulu Jones y felin o 1853 hyd 1925, gan falu ŷd i ffermwyr lleol. Dadfeiliodd yr adeiladau, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd olwyn y felin i wefru batris tra bod y Weinyddiaeth Fwyd yn defnyddio'r granar 5 llawr fel storfa siwgr.

Mae llawer o bobl yn cofio 'Craft O'Hans' yn yr hen stablau yn ystod y 1980au. Yn ddiweddar mae'r Hen Felin wedi cael ei drawsnewid yn osodiadau gwyliau hunan-arlwyo modern. Roedd yn llety gwely a brecwast o 1988 tan 2014 ac agorodd fel bythynnod gwyliau yn 2015.

Cliciwch yma am fanylion