Mae teulu Brian wedi bod yn ffermio yn yr ardal hon ers bron i 100 mlynedd
Roedd bywyd yn galed pan oedd Brian yn blentyn ifanc gan nad oedd dŵr na thrydan. Roedd ganddynt wartheg godro, moch a cheffylau gwedd gan fod popeth yn cael ei wneud gan geffyl a chert. Cariwyd y llaeth mewn caniau 10 galwyn i Orsaf Nannerch a'i anfon i'r Coop ym Mhenbedw. Yn ddiweddarach roedd lori'n ei gasglu ond o bryd i'w gilydd byddai'n troi yn y tywydd cynnes ac yn cael ei anfon yn ôl o'r llaethdy a'i fwydo i'r moch.
Roedd y beudai yn cael eu gwyngalchu yn yr haf er mwyn eu cadw'n lân. Cymysgwyd calch brwd o Chwarel Hendre gyda dŵr ond roedd yn rhaid i chi fod yn ofalus i beidio â'i gael yn eich llygaid neu ar eich croen am ei fod yn llosgi.
Mae Clwb y Ffermwyr Ifanc yn dal i fod yn rhwydwaith cymdeithasol pwysig i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig.







