Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ystâd Penbedw

Ystâd Penbedw
Gwrando

Ganwyd Cliff Halsall ar Ystâd Penbedw.

Cafodd Ystâd Penbedw ddylanwad mawr ar Nannerch ac roedd yn ymestyn dros 4000 erw. Fe'i disgrifiwyd gan Thomas Pennant ym 1778 fel 'addurn o'r dyffryn bach hwnnw'.

Yn ystod y 18fed ganrif roedd y stad yn eiddo i'r teulu Williams a adeiladodd y Cross Foxes, gan gymryd yr enw o'u harfbais.

Prynodd William Barber Buddicom yr ystâd ym 1852 a'i deulu a gefnogodd ailadeiladu'r eglwys yn 1853 ac a ariannodd yr ysgol newydd ym 1894. Penderfynodd Venetia Buddicom a'i mam adeiladu Neuadd Goffa ar gyfer y pentref er cof am ei thad, Harry Budicom, a'i brawd Walter a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Defnyddiwyd Plas Penbedw, a oedd â 30 ystafell wely, gan y Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn anffodus, cafodd ei ddymchwel ym 1968.