Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Dublin Row

Dublin Row

Roedd y rhes hon o fythynnod glowyr, sydd wedi'u dymchwel ers tro byd, yn 20 o dai un ystafell un llofft gwyngalchog ac yn gartref i ryw 100 a mwy o drigolion.

Adeiladwyd y bythynnod gan Gwmni Irish Coal ar gyfer eu gweithwyr ac roeddent yn rhedeg yn gyfochrog yn fras â Lôn Bryn Gwyn. Yn un o'r bythynnod hyn ym 1837, ffurfiwyd Cymdeithas Cyfundeb Newydd y Methodistiaid. Penderfynwyd y dylent adeiladu capel a sicrhau llain o dir ar gyffordd Lôn Bryn Gwyn a Ffordd y Pentre. Cafodd Dublin Row ei ddymchwel ddiwedd y 1920au pan gafodd y preswylwyr eu hail-gartrefu yn y tai cymdeithasol cyntaf a adeiladwyd yn y pentref yn y Brookside. Mwynhaodd y preswylwyr gyfleusterau modern o ddŵr tap a thoiledau dan do.