
Mae'r Eglwys Fethodistaidd yn diwallu anghenion ysbrydol y gynulleidfa ac yn ganolbwynt bywiog.
Ymhlith y gweithgareddau mae Celf a Chrefft, Tai Chi ac Ioga ac mae hefyd yn gartref i Gylch Chwarae'r Pentref, Swyddfa'r Post ac yn cynnal noson Ffilm fisol yn dangos y ffilmiau diweddaraf (dyddiau ac amseroedd fel yr hysbysebir). Cyn bo hir bydd yn ganolbwynt hanes y pentref.
Prynwyd y tir ar gyfer yr Eglwys ym 1861 am y swm tywysogaidd o 5 swllt. Roedd i ddisodli Eglwys lai a adeiladwyd ar safle Ferndown (ar gornel Lôn Bryn Gwyn a Ffordd y Pentre) pan gynyddodd nifer yr addolwyr. Cymaint oedd pŵer yr Eglwys Anglicanaidd bryd hynny fel y gallai atal sefydlu eglwysi anghydffurfiol. Fodd bynnag, pe bai modd cwblhau'r sylfeini heb yn wybod i'r Eglwys, gellid cwblhau'r adeilad. Gyda byddin o gynorthwywyr gyda llusernau, gweithiodd gweithwyr penderfynol drwy'r nos i adeiladu sylfeini a thrwy hynny warantu adeiladu'r Eglwys Fethodistaidd newydd. Ar 6 Gorffennaf gosododd Mr John Watkinson o Brook Park y garreg sylfaen ac ar 30 Mai 1875 agorwyd a chysegrwyd yr Eglwys yn lle o addoliad. Rhyw ugain mlynedd yn ddiweddarach adeiladwyd yr Ysgol Sul am £200.