Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ferndown a Fernbank

Adeiladwyd Ferndown ym 1901. Mae'n sefyll ar gornel Lôn Bryn Gwyn Lane a Ffordd y Pentre, bellach yn gartref teuluol ond am nifer o flynyddoedd roedd yn siop bentref boblogaidd.

Mr Isaiah Davies (llun) oedd perchennog y siop yma am nifer o flynyddoedd. Yng nghyfrifiad 1911 cofnodir ei alwedigaeth fel Glöwr, Groser a Masnachwr Cyffredinol. Yn anffodus, roedd Will, brawd Isaiah, yn un a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei ladd wrth ymladd ym 1917. Y teulu Schaefer oedd perchnogion Ferndown yn ddiweddarach ac fe'i gelwid yn "Siop Bunty". Defnyddiwyd y siop hefyd fel meddygfa am nifer o flynyddoedd. Adeiladwyd y tŷ ar safle adeilad Capel Cyfundeb Newydd Methodistaidd gwreiddiol llawer llai, a adeiladwyd ym 1834. Yn y flwyddyn honno ffurfiwyd cymdeithas o Gyfundeb Newydd y Methodistiaid a phenderfynon nhw adeiladu capel newydd ar y llain. Cefnogodd Thomas Astbury, a oedd â chysylltiad â Glofeydd Galchog a Northop Hall, achos y Methodistiaid ac roedd yn ganolog i adeiladu'r Capel. Erbyn 1861, roedd nifer yr addolwyr wedi cynyddu, roedd angen i'r Capel symud i adeilad mwy. Yn ddiweddarach adeiladwyd Ferndown ar y safle.

Mae Fernbank yn enghraifft wych o deras mwyngloddio o oes Fictoria, a elwir yn lleol fel Reney's Row.