Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Awyren Vickers Wellesey

Awyren Vickers Wellesey

Ddydd Mawrth Rhagfyr 12fed 1939, fe wnaeth awyren fomio / rhagchwilio pellter hir Vickers Wellesley laniad dan orfod yn Smithy Lane.

Roedd ar brawf injan pum awr. Roedd tri teithiwr ar fwrdd yr awyren ac, yn ffodus, ni chafwyd unrhyw golledion. Gosodwyd gwarchodwyr arni. Fe’i symudwyd yr wythnos yn dechrau Chwefror 12fed 1940. Ar yr adeg hon, roedd tywydd eithafol, gydag eira dwfn ac roedd afon Dyfrdwy wedi rhewi. Mae rhai trigolion yn dal i gofio'r digwyddiad hwn, a oedd yn ddigwyddiad cyffrous i blant y pentref.