

Mae ffenestri sydd wedi'u blocio i fyny yn dwyn i gof y Dreth Ffenestr 
Drws siambr y neuadd ffynnon 
Cipolwg ar Northop Hall hanesyddol o Smithy Lane
Adeiladwyd plasdy Northop Hall yn y 15fed Ganrif ond nid tan yr 20fed Ganrif y cymerodd y pentref ei enw.
Adeiladwyd yn y 15fed Ganrif gan Dafydd ap Ithel Fychan, plas anarferol ar ffurf hirsgwar o garreg arw. Mae'r waliau bron i chwe troedfedd o drwch yn ei waelod ac mae to cromennog baril carreg i'r ystafell ar y llawr cyntaf. Mae grisiau cerrig cylchog mewnol a ffynnon fewnol. Yn allanol, bu newid mawr. Bu am nifer o flynyddoedd yn brif dŷ plwyf Llaneurgain ac yn gartref i'r teulu Evans, bonheddwyr Cymreig. Roedd yn fan cyfarfod i feirdd Cymru gan gynnwys Dafydd ab Edmund a Thudur Aled. Ysgrifennodd Gutun Owen gerdd i ganmol Hywel o Lys Eurgain. Mae rhai ffenestri mwliwn cerrig sydd wedi'u cau yn atgof o'r Dreth ar Ffenestri ac fe'i trethwyd hefyd am fod ag wyth lle tân. Yn yr 17eg Ganrif roedd dau Evans yn Siryfion Sir y Fflint ac yn byw yma. Roeddent yn hynafiaid i Mary Ann Evans (George Elliot) awdur Silas Marner, Adam Bede a The Mill on the Floss. Roedd tua deg Arfbais yn perthyn i deulu'r Evans, nodwedd gyffredin y cyfan yw Pen Baedd.