Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Siafft mwynglawdd

Agorodd Glofa Dublin Main ym 1873 gyda dau bwll yn cael eu suddo. Yn lleol, mae'r term 'Down the Banks' yn cyfeirio at yr ardal hon yn gyffredinol gan gyfeirio at y Ponciau Glo. Mae cofnod arall yn defnyddio'r term 'Yr Hen Bonciau' sy'n awgrymu cyfnod cynharach o fwyngloddio yn yr ardal. Er i'r pwll glo ddod i ben ym 1886, mae'r siafft yn dal i fod yn amlwg heddiw. Mewn gwirionedd ar 22 Mehefin 1937, cwympodd Joseph Jones yn 5 oed, i lawr y siafft. Syrthiodd 20 troedfedd i lawr ar hen fatresi a daflwyd a hyn wnaeth ei arbed rhag cwympo i'r dŵr 100 troedfedd islaw. Llwyddodd ei dad i'w achub a'i dynnu i fyny.