Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Brighton Row

Brighton Row, a elwir hefyd yn New Brighton Row.

Roeddent yn adeiladau dau i fyny dau i lawr a chanddynt bibell stand dŵr gymunedol, a adeiladwyd ar gyfer glowyr a'u teuluoedd. Roedd y rhes o fythynnod cerrig yn sefyll ger Tafarn y Llew Du ond fe'u hadeiladwyd cyn y dafarn. Credir bod enw'r rhes o fythynnod yn dod o'r ffaith, pan gawsant eu hadeiladu, ei bod hi'n bosibl gweld New Brighton, Cilgwri o'r lleoliad hwnnw. I gadarnhau hyn, cafodd tai cyfagos eu galw'n “Sea View” a “Burton View”.

Roedd addysg plentyn yn y 19eg ganrif yn aml yn anffurfiol a heb strwythur. Am gyfnod byr yng nghanol y ganrif sefydlodd y Presbyteriaid ysgol yn y Capel yn Corc tra derbyniodd llawer o blant eraill ychydig o addysg yn Ysgolion y Fonesig, megis yn Brighton Row lle byddai gwraig glöwr yn dysgu ychydig o blant. Parhaodd Brighton Row i gartrefu preswylwyr tan y 1960au ac fe'u tynnwyd i lawr o'r diwedd yn gynnar yn y 1970au.

Gellir dod o hyd i siafft mwynglawdd wedi'i ffensio ymhellach ar hyd y llwybr troed, sy'n arwain o Ffordd y Pentre i Ffordd Caer, un o'r nifer o siafftiau mwyngloddiau sy'n adleisio ein treftadaeth ddiwydiannol.